Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023
Amser:
09.00 -
09.29
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaethau y Siambr a Phwyllgorau, Nia Moss, Y Gwasanaeth Ymchwil, Dan Collier, Gwasanaeth Trawsnewid Stategol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU’ (30 munud)
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 13 Medi 2023 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Anghynaliadwy - dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol (60 munud)
· Dadl ar ddeiseb P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl fer (30 munud)
4 Pwyllgorau
4.1 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slot cyfarfod y pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais i’r Pwyllgor gwrdd am y tro cyntaf ddydd Mawrth 11 Gorffennaf, a chytunwyd arno.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd adroddiad drafft sy'n cynnwys y Rheolau Sefydlog Dros Dro arfaethedig sy'n ymwneud â'r trefniadau cyd-gadeirio ar gyfer y Pwyllgor yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Busnes.
5 Diwygio’r Senedd
5.1 Papur i’w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch diwygio’r Senedd a theitl y Llywydd
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a’r ffaith na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r teitl a ddefnyddir ar gyfer y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod ar Ddiwygio’r Senedd.
Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn rhoi nodyn cyfreithiol ar wahaniaethau yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i ddiwygio enw'r sefydliad a theitl y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.
6 Rhaglen waith weithdrefnol
6.1 Ystyriaethau gweithdrefnol ar ôl gadael yr UE
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r Rheolau Sefydlog perthnasol a nodwyd yn argymhellion diweddar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas ag effaith ymarferol Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ar ddeddfwriaeth a wnaed gan y Senedd, neu sy’n effeithio arni.
Fel rhan o'r adolygiad, nododd y Pwyllgor Busnes y bydd cynigion yn cael eu cynhyrchu mewn perthynas â'r ffyrdd posibl y gellid diwygio Rheolau Sefydlog, a chytunwyd y byddai'n ymgynghori â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ystyried cynigion i newid y trefniadau craffu cyfredol ar gyfer Fframweithiau Polisi Cyffredin fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Bumed Senedd, mewn ymgynghoriad â Fforwm y Cadeiryddion.
7 Unrhyw faterion eraill
Cynigiodd Siân Gwenllian y dylid symud y trafodaethau ynghylch rhannu swyddi mewn swyddi ychwanegol anweithredol yn y Senedd i dymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â’i waith gweithdrefnol yn unol â’r rhaglen bresennol, gan gynnwys ystyried ymhellach rhannu swyddi yn ystod 2024, a thrafod rhaglen waith weithdrefnol wedi’i diweddaru ar ddechrau tymor yr hydref.